1 Chronicles 3

Meibion Dafydd

1Dyma'r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron:

Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.
Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
2Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.
Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
3Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.

4Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner.

Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd. 5A dyma'r meibion gafodd e yno:

Shamma
3:5 Shamma Hebraeg,  Shimma – ffurf arall ar yr un enw (gw. 1 Samuel 16:9; 17:13)
, Shofaf, Nathan, a Solomon – mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.

6Naw mab arall Dafydd oedd:

Ifchar, Elishwa, Eliffelet, 7Noga, Neffeg, Jaffia, 8Elishama, Eliada, ac Eliffelet.

9Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid.
3:9 bartneriaid Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
Tamar oedd eu chwaer nhw.

Disgynyddion Solomon

10Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat, 11Jehoram, Ahaseia, Joas, 12Amaseia, Asareia
3:12 Hebraeg, “Asareia” – enw arall ar Wseia.
, Jotham,
13Ahas, Heseceia, Manasse, 14Amon, a Joseia 15a'i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm
3:15 Shalwm Enw arall ar Jehoachas mae'n debyg. (gw. 2 Brenhinoedd 23:30; Jeremeia 22:11)
.

16Jehoiacim oedd tad Jehoiachin
3:16 Jehoiachin Hebraeg, Jechoneia, oedd yn enw arall ar Jehoiachin.
a Sedeceia.

Disgynyddion Jehoiachin

17Meibion Jehoiachin gafodd ei gaethgludo:

Shealtiel, 18Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.

19Meibion Pedaia:

Serwbabel a Shimei.

Meibion Serwbabel:

Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw.

20Y pump arall oedd Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.

21Disgynyddion Chananeia:

Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia.

22Disgynyddion Shechaneia:

Shemaia a'i feibion: Chattwsh, Igal, Barïach, Nearia, a Shaffat – chwech i gyd.

23Meibion Nearia:

Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri.

24Meibion Elioenai:

Hodafia, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani – saith i gyd.

Copyright information for CYM